Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3
Tachwedd 2015
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
NNDM5860 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.6:
Yn atal rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5861 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 3 Tachwedd 2015.
(60 munud)
NNDM5861 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi Bil Cymru drafft gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015 ac yn anfodlon nad yw’r model cadw pwerau presennol yn bodloni argymhellion Rhan 2 Comisiwn Silk.
Cefnogir
gan:
Elin Jones (Ceredigion)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
(30 munud)
(30 munud)
(30 munud)
NDM5857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2015.
Dogfennau Ategol
Ddrafft
o'r Cod Ymarfer Landlordiaid ac Asiantau sydd wedi'i thrwyddedu o
dan Ran 1 Deddf Tai (Cymru) 2014
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol -
Dim pwyntiau adrodd
(5 munud)
NDM5859 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:
a) adrannau 7 i 29
b) adrannau 31 i 88
c) adrannau 90 i 101
d) adrannau 103 i 119
e) adrannau 121 i 131
f) adrannau 133 i 146
g) adrannau 148 i 257
h) Atodlenni 2 i 11
i) adran 30
j) adran 89
k) adran 102
l) adran 120
m) adran 132
n) adran 147
o) adrannau 1 i 4
p) Atodlen 1
q) adrannau 5 i 6
r) teitl hir
(5 munud)
NDM5858 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
(60 munud)
NDM5856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Arolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'Llunio dyfodol cydraddoldeb a hawliau dynol'.
Gellir gweld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.equalityhumanrights.com/cy/llunio-dyfodol-cydraddoldeb-hawliau-dynol
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i anfon neges gref i Lywodraeth y DU ein bod yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998.
Deddf Hawliau Dynol 1998 ( Saesneg yn unig)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2015